RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

“Wedi ei gymhwyso’n briodol”LL+C

[F185CYmgeiswyr gwladwriaeth benodedig: gwrthod cydnabod cymwysterau proffesiynolLL+C

(1)Ni chaiff y cofrestrydd wrthod cydnabod cymwysterau proffesiynol ymgeisydd gwladwriaeth benodedig ond os bodlonir un neu ragor o Amodau 1, 2, 3 neu 4.

(2)Mae Amod 1 wedi ei fodloni—

(a)pan fo gwahaniaeth sylweddol rhwng y safon hyfedredd y darperir tystiolaeth ohoni gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd a’r safon hyfedredd y mae’n angenrheidiol i berson ei chyflawni i gael ei dderbyn i’r rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi, a

(b)pan fo’r ymgeisydd yn methu prawf gallu, neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol ag adran 85D.

(3)Mae Amod 2 wedi ei fodloni—

(a)pan fo gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi yn cynnwys un neu ragor o weithgareddau proffesiynol sy’n cwmpasu materion sy’n sylweddol wahanol i’r rhai a gwmpesir gan gymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd, a

(b)pan fo’r ymgeisydd yn methu prawf gallu, neu’n gwrthod ei sefyll, neu’n methu â chwblhau cyfnod ymaddasu a osodwyd yn unol ag adran 85D.

(4)Mae Amod 3 wedi ei fodloni pan fyddai ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd sefyll prawf gallu neu gwblhau cyfnod ymaddasu yn unol ag adran 85D yn gyfystyr â’i gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd gaffael y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol er mwyn ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cynnwys yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.

(5)Mae Amod 4 wedi ei fodloni pan na fo’r ymgeisydd yn gallu bodloni unrhyw un neu ragor o’r gofynion cofrestru eraill mewn perthynas â’r rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.]