(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo ymgeisydd gwladwriaeth benodedig yn cyflwyno cais ar gyfer cofrestru.
(2)Yn ddarostyngedig i adran 85C, rhaid i’r cofrestrydd gydnabod cymwysterau proffesiynol yr ymgeisydd os yw wedi ei fodloni bod y cymwysterau proffesiynol hynny’n gymaradwy â’r rhai sy’n ofynnol i ymarfer yng Nghymru waith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.]
Diwygiadau Testunol