xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon os yw’r ymgeisydd yn berson esempt sydd, yn rhinwedd Rhan 3 o’r Rheoliadau Systemau Cyffredinol, wedi ei ganiatáu i ddilyn proffesiwn gweithiwr cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig (ar ôl, yn benodol, gwblhau unrhyw gyfnod addasu yn llwyddiannus, neu basio unrhyw brawf tueddfryd, y caiff fod yn ofynnol i’r ymgeisydd ei gwblhau yn unol â’r Rhan honno o’r Rheoliadau hynny).
(2)Mae ymgeisydd ar gyfer cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr yn bodloni gofynion yr adran hon—
(a)os yw’r ymgeisydd wedi gwneud hyfforddiant mewn gwaith cymdeithasol yn rhywle arall ac eithrio Cymru, a
(b)os, naill ai—
(i)cydnabyddir yr hyfforddiant hwnnw gan GCC fel hyfforddiant o safon sy’n ddigonol ar gyfer cofrestriad o’r fath, neu
(ii)na chydnabyddir yr hyfforddiant yn y fath fodd, ond bod yr ymgeisydd wedi gwneud unrhyw hyfforddiant ychwanegol sy’n ofynnol gan GCC (pa un a yw hynny yng Nghymru neu yn rhywle arall).
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 85 pennawd wedi eu mewnosod (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 131(2) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 85 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 85 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)