RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

84“Wedi ei gymhwyso’n briodol”

At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—

(a)

os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—

(i)

wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,

(ii)

yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru F1 – gweithwyr cymdeithasol ), neu

(iii)

yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;

F2(aa)

os yw'r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol—

(i)

wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy'n dymuno dod yn rheolwyr gofal cymdeithasol,

(ii)

yn bodloni gofynion adran 85A (cymwysterau a geir tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), neu

(iii)

yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â rheolwyr gofal cymdeithasol;

(b)

os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—

(i)

wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu

(ii)

sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.