Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

84“Wedi ei gymhwyso’n briodol”LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

At ddibenion adran 83 mae person wedi ei gymhwyso’n briodol—

(a)os yw’r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithwyr cymdeithasol,

(ii)yn bodloni gofynion adran 85 (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru [F1 – gweithwyr cymdeithasol ]), neu

(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC eu gosod drwy reolau;

[F2(aa)os yw'r ymgeisydd, yn achos cais i gofrestru fel rheolwr gofal cymdeithasol—

(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy'n dymuno dod yn rheolwyr gofal cymdeithasol,

(ii)yn bodloni gofynion adran 85A (cymwysterau a geir tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), neu

(iii)yn bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â rheolwyr gofal cymdeithasol;]

(b)os yw’r ymgeisydd, yn achos ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall—

(i)wedi cwblhau’n llwyddiannus gwrs a gymeradwywyd gan GCC o dan adran 114 ar gyfer personau sy’n dymuno dod yn weithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw, neu

(ii)sy’n bodloni unrhyw ofynion o ran hyfforddiant y caiff GCC drwy reolau eu gosod mewn perthynas â gweithwyr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 84 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 84 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)