RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr

F183ACofrestru dros dro mewn argyfyngau sy'n cynnwys colli bywyd dynol neu salwch dynol etc

(1)

Caiff y cofrestrydd gofrestru person fel gweithiwr cymdeithasol yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr, neu bersonau sy'n ffurfio grŵp penodedig o bersonau fel gweithwyr cymdeithasol yn y rhan honno, —

(a)

os yw Gweinidogion Cymru wedi cynghori'r cofrestrydd bod argyfwng wedi codi, yn codi neu ar fin codi, ac y dylai'r cofrestrydd ystyried gweithredu o dan yr adran hon, a

(b)

os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y gofyniad ar gyfer cofrestru mewn argyfwng wedi ei fodloni mewn perthynas â'r person neu'r grŵp o bersonau.

(2)

At ddibenion is-adran (1)(b) mae'r gofyniad ar gyfer cofrestru mewn argyfwng yn cael ei fodloni—

(a)

mewn perthynas â pherson, os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y person yn berson addas a phriodol sydd â phrofiad cyfaddas i gael ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol o ran yr argyfwng;

(b)

mewn perthynas â grŵp o bersonau, os yw'r cofrestrydd yn ystyried bod y grŵp yn cael ei ffurfio o bersonau sydd o fath y gellir eu hystyried yn rhesymol yn bersonau addas a phriodol sydd â phrofiad cyfaddas i gael eu cofrestru fel gweithwyr cymdeithasol o ran yr argyfwng.

(3)

Caiff y cofrestrydd gofrestru pob un o'r personau sy'n ffurfio grŵp penodedig o bersonau heb enwi'n gyntaf bob person yn y grŵp.

(4)

Caiff y cofrestrydd gynnwys anodiad yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr sy'n dynodi bod person wedi cael ei gofrestru o dan yr adran hon.

(5)

Mae cofrestriad person o dan yr adran hon yn cael effaith yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir gan y cofrestrydd; a chaiff y cofrestrydd amrywio neu ddirymu unrhyw amod o'r fath neu ychwanegu unrhyw amodau newydd ar unrhyw adeg.

(6)

Pan fo person wedi ei gofrestru o dan yr adran hon fel aelod o grŵp penodedig, caniateir i gofrestriad y person fod (ond nid oes rhaid iddo fod) yn ddarostyngedig i'r un amodau â chofrestriad aelodau eraill o'r grŵp.

(7)

Mae cofrestriad person o dan yr adran hon yn peidio â chael effaith os caiff ei ddirymu gan y cofrestrydd; a—

(a)

rhaid i'r cofrestrydd ddirymu'r cofrestriad os yw Gweinidogion Cymru yn cynghori'r cofrestrydd nad yw'r amgylchiadau a arweiniodd Gweinidogion Cymru at roi'r cyngor y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) bellach yn bodoli;

(b)

caiff y cofrestrydd, ar unrhyw adeg, ddirymu'r cofrestriad am unrhyw reswm arall, gan gynnwys pan fo'r cofrestrydd yn amau y gall addasrwydd y person i ymarfer fod wedi ei amharu.

(8)

Caniateir i gofrestriad person fel aelod o grŵp penodedig gael ei ddirymu—

(a)

heb ddirymu cofrestriad aelodau eraill o'r grŵp, neu

(b)

o ganlyniad i benderfyniad i ddirymu cofrestriad pob aelod o'r grŵp.

(9)

Os yw cofrestriad unrhyw berson yn cael ei ddirymu o dan is-adran (7)(a), mae'r cofrestriad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau â'r diwrnod y caiff ei ddirymu.

(10)

Os yw cofrestriad unrhyw berson yn cael ei ddirymu o dan is-adran (7)(b), mae'r cofrestriad yn peidio â chael effaith ar unwaith.

(11)

Ni chaiff rheolau o dan adran 74 ddarparu ar gyfer codi ffioedd o ran cofrestriad person o dan yr adran hon.

(12)

Nid yw darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys i bersonau a gofrestrir o dan yr adran hon—

(a)

adrannau 82, 83, 84, 86, 87, 89, 94 a 95 (darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru) o'r Ddeddf hon;

(b)

adrannau 113 i 115 (datblygiad proffesiynol parhaus) o'r Ddeddf hon a rheolau a wneir o dan unrhyw un o'r adrannau hynny;

(c)

Rhan 6 (gweithwyr gofal cymdeithasol: addasrwydd i ymarfer) o'r Ddeddf hon ac eithrio adran 160(1) a (3) i (5).

(13)

Os yw person yn torri amod y mae cofrestriad y person o dan yr adran hon yn ddarostyngedig iddo, mae unrhyw beth a wneir gan y person yn groes i'r amod i'w drin fel peth nad yw wedi ei wneud gan berson a gofrestrwyd yn rhan gweithwyr cymdeithasol y gofrestr.

(14)

Yn yr adran hon mae i “argyfwng” yr ystyr a roddir i'r math o “emergency” a ddisgrifir yn adran 19(1)(a) o Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl 2004, wedi ei darllen ynghyd ag is-adran (2)(a) a (b) o'r adran honno.