xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Rhaid i’r cofrestrydd ganiatáu cais a wneir o dan adran 82 os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC,
(b)bod yr ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac
(c)bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru.
(2)Y gofynion cofrestru yw—
(a)bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol (gweler adran 84),
(b)nad oes unrhyw amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1), ac
(c)bod y person yn bwriadu ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(3)At ddibenion is-adran (2)(c) caiff GCC drwy reolau bennu—
(a)gweithgareddau sydd i’w hystyried fel ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan o’r gofrestr;
(b)y meini prawf i’w cymhwyso gan y cofrestrydd ar gyfer dyfarnu a yw person yn bwriadu ymarfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 83 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 83 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)