RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr
83Cofrestru
(1)
Rhaid i’r cofrestrydd ganiatáu cais a wneir o dan adran 82 os yw wedi ei fodloni—
(a)
bod y cais wedi ei wneud ar y ffurf ac yn y modd a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC,
(b)
bod yr ymgeisydd wedi talu’r ffi (os oes ffi) a bennir mewn rheolau a wneir gan GCC o dan adran 74, ac
(c)
bod yr ymgeisydd yn bodloni’r gofynion cofrestru.
(2)
Y gofynion cofrestru yw—
(a)
bod y person wedi ei gymhwyso’n briodol (gweler adran 84),
(b)
nad oes unrhyw amhariad ar addasrwydd y person i ymarfer ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 117(1), ac
(c)
bod y person yn bwriadu ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru yn y rhan o’r gofrestr y mae’r cais yn ymwneud â hi.
(3)
At ddibenion is-adran (2)(c) caiff GCC drwy reolau bennu—
(a)
gweithgareddau sydd i’w hystyried fel ymarfer gwaith personau sydd wedi eu cofrestru mewn rhan o’r gofrestr;
(b)
y meini prawf i’w cymhwyso gan y cofrestrydd ar gyfer dyfarnu a yw person yn bwriadu ymarfer.