RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Cofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr
82Cais i gofrestru
(1)
Mae cais i gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr i’w wneud i’r cofrestrydd.
(2)
Rhaid i gais o dan is-adran (1) bennu pob rhan o’r gofrestr y gwneir cais i gofrestru ynddi.