RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Y gofrestr

81Dyletswydd i benodi cofrestrydd

(1)

Rhaid i GCC benodi cofrestrydd.

(2)

Mae person a benodir yn gofrestrydd yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau sy’n briodol ym marn GCC; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch y lefelau tâl, pensiynau, lwfansau a threuliau sy’n daladwy i berson o’r fath neu mewn cysylltiad ag ef.

(3)

Gweler paragraff 13 o Atodlen 2 am ddarpariaeth bellach ynghylch staff GCC.