Valid from 03/04/2017

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Y gofrestrLL+C

81Dyletswydd i benodi cofrestryddLL+C

(1)Rhaid i GCC benodi cofrestrydd.

(2)Mae person a benodir yn gofrestrydd yn dal y swydd ar unrhyw delerau ac amodau sy’n briodol ym marn GCC; ond rhaid i GCC ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn penderfynu ar unrhyw delerau ac amodau ynghylch y lefelau tâl, pensiynau, lwfansau a threuliau sy’n daladwy i berson o’r fath neu mewn cysylltiad ag ef.

(3)Gweler paragraff 13 o Atodlen 2 am ddarpariaeth bellach ynghylch staff GCC.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 81 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)