RHAN 4GWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL
Y gofrestr
80Y gofrestr
(1)
Rhaid i GCC gadw cofrestr—
(a)
o weithwyr cymdeithasol,
(b)
o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau, ac
(c)
o weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90).
(2)
Rhaid cadw rhan ar wahân o’r gofrestr—
(a)
ar gyfer gweithwyr cymdeithasol;
(b)
ar gyfer pob disgrifiad o weithiwr gofal cymdeithasol a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b);
(c)
ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.
(3)
At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
(a)
y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” o’r gofrestr;
(b)
mae rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(b) yn “rhan ychwanegol” o’r gofrestr;
(c)
y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(c) yw’r “rhan ymwelwyr Ewropeaidd” o’r gofrestr.