xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 03/04/2017

RHAN 4LL+CGWEITHWYR GOFAL CYMDEITHASOL

Y gofrestrLL+C

80Y gofrestrLL+C

(1)Rhaid i GCC gadw cofrestr—

(a)o weithwyr cymdeithasol,

(b)o weithwyr gofal cymdeithasol o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,F1...

(c)o weithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90) [ , a ]

[(d)o reolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol (gweler adran 90A).]

(2)Rhaid cadw rhan ar wahân o’r gofrestr—

(a)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol;

(b)ar gyfer pob disgrifiad o weithiwr gofal cymdeithasol a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan is-adran (1)(b);

(c)ar gyfer gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.

[(d)ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol.]

(3)At ddibenion Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

(a)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(a) yw’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” o’r gofrestr;

(b)mae rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(b) yn “rhan ychwanegol” o’r gofrestr;

(c)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(c) yw’r “rhan [gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad]” o’r gofrestr.

[(d)y rhan a grybwyllir yn is-adran (2)(d) yw'r “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 80 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 80 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(c) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)