RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 2COFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU
Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriad
8Hyd ymweliadau cymorth cartref
(1)
Yr ymgymeriad a grybwyllir yn adran 7(1)(a)(ii) ac 11(3)(a)(ii) yw na fydd gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad sy’n fyrrach na 30 munud oni bai bod naill ai amod A, B neu C wedi ei fodloni.
(2)
Mae Amod A yn gymwys pan—
(a)
fo’n ofynnol i awdurdod lleol—
(i)
yn rhinwedd adran 35 neu 37 o Ddeddf 2014, ddiwallu anghenion y person yr ymwelir ag ef, neu
(ii)
yn rhinwedd adran 40 neu 42 o’r Ddeddf honno, ddiwallu anghenion gofalwr y person hwnnw, a
(b)
fo’r awdurdod yn diwallu’r anghenion hynny drwy ddarparu gwasanaeth cymorth cartref neu drwy drefnu bod gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu i’r person yr ymwelir ag ef.
(3)
Amod A yw—
(a)
bod yr unigolyn sy’n cynnal yr ymweliad wedi cynnal ymweliad blaenorol yn ystod y cyfnod y mae’r awdurdod lleol yn cynnal—
(i)
cynllun gofal a chymorth o dan adran 54(1) o Ddeddf 2014 mewn cysylltiad â’r person yr ymwelir ag ef, neu
(ii)
cynllun cymorth o dan yr adran honno mewn cysylltiad â gofalwr y person, a
(b)
naill ai—
(i)
y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu
(ii)
y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.
(4)
Mae Amod B yn gymwys pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu o dan amgylchiadau pan na fo Amod A yn gymwys.
(5)
Amod B yw—
(a)
bod ymweliad sy’n llai na 30 munud yn gyson â thelerau unrhyw drefniant i ddarparu’r gwasanaeth a wneir rhwng y darparwr gwasanaeth a’r person yr ymwelir ag ef (neu berson arall sy’n gweithredu ar ran y person yr ymwelir ag ef),
(b)
y cynhelir yr ymweliad at yr unig ddiben o gadarnhau a yw’r person yn ddiogel ac yn iach, neu
(c)
y gall y tasgau sydd i gael eu cwblhau yn ystod yr ymweliad gael eu cwblhau’n rhesymol, a’u bod yn cael eu cwblhau, i safon sy’n bodloni unrhyw ofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27 sy’n berthnasol i’r ymweliad.
(6)
Mae Amod C yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo gwasanaeth cymorth cartref yn cael ei ddarparu drwy ymweliad â pherson.
(7)
Amod C yw bod yr ymweliad yn cael ei gwtogi ar gais y person yr ymwelir ag ef.