RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf hon

74Rheolau: ffioedd

(1)

Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—

(a)

GCC;

(b)

y cofrestrydd (gweler adran 81).

(2)

Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag⁠—

(a)

darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;

(b)

cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);

(c)

cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);

(d)

darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);

(e)

darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.

F1(2A)

Ond rhaid i unrhyw ffioedd a godir mewn cysylltiad â chais ar gyfer cofrestru yn y gofrestr a gyflwynir gan ymgeisydd gwladwriaeth benodedig—

(a)

bod yn rhesymol ac yn gymesur â chost y cais;

(b)

bod yn dryloyw, ac wedi eu cyhoeddi ymlaen llaw;

(c)

bod yn daladwy drwy ddulliau electronig drwy wefan GCC.

F2(3)

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .