xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—
(a)GCC;
(b)y cofrestrydd (gweler adran 81).
(2)Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag—
(a)darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;
(b)cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);
(c)cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);
(d)darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);
(e)darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.
(3)Ond ni chaiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â chofrestru ar y [F1rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu'r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad] o’r gofrestr.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 74(3) wedi eu hamnewid (3.4.2017) gan The European Qualifications (Health and Social Care Professions) Regulations 2016 (O.S. 2016/1030), rhlau. 1, 123(2) (ynghyd â rhl. 155)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 74 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 74 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)