RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf hon
74Rheolau: ffioedd
(1)
Caiff GCC drwy reolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd i GCC mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaethau gan—
(a)
GCC;
(b)
y cofrestrydd (gweler adran 81).
(2)
Yn benodol, caiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad ag—
(a)
darparu cyngor neu gynhorthwy arall o dan adran 69;
(b)
cofrestru yn y gofrestr (gweler Rhan 4);
(c)
cymeradwyo cyrsiau o dan adran 114 (cymeradwyo cyrsiau i bersonau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol);
(d)
darparu hyfforddiant o dan adran 116 (hyfforddiant a ddarperir neu a sicrheir gan GCC);
(e)
darparu copïau o godau ymarfer neu gopïau o’r gofrestr neu ddarnau ohoni.
(3)
Ond ni chaiff y rheolau wneud darpariaeth ar gyfer talu ffioedd mewn cysylltiad â chofrestru ar y F1rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad neu'r rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad o’r gofrestr.