xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CGOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Rheolau a wneir gan GCC o dan y Ddeddf honLL+C

73Rheolau: cyffredinolLL+C

(1)Rhaid i unrhyw bŵer a roddir i GCC gan neu o dan y Ddeddf hon i wneud rheolau gael ei arfer yn ysgrifenedig drwy offeryn.

(2)Rhaid i offeryn sy’n cynnwys rheolau bennu’r ddarpariaeth y gwneir y rheolau odani.

(3)I’r graddau nad yw offeryn sy’n cynnwys rheolau yn cydymffurfio ag is-adran (2) mae’n ddi-rym.

(4)Caniateir i unrhyw bŵer sydd gan GCC i wneud rheolau a roddir gan neu o dan y Ddeddf hon gael ei arfer—

(a)er mwyn gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)er mwyn gwneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol a throsiannol.

(5)Rhaid i GCC—

(a)cyhoeddi rheolau a wneir ganddo, a

(b)sicrhau bod y rheolau ar gael yn gyhoeddus hyd nes y byddant yn peidio â chael effaith.

(6)Caiff GCC godi ffi am ddarparu i berson gopi o’r rheolau a wneir ganddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 73 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 73(1)(2) mewn grym ar 11.7.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/713, ergl. 2

I3A. 73(1)(2) mewn grym ar 3.4.2017 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)

I4A. 73(3)-(6) mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(b) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)