(1)Rhaid i GCC ddarparu, ar gais, wybodaeth i broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig am y materion a ganlyn—
(a)y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(b)manylion unrhyw ofynion cofrestru sy’n gymwys mewn perthynas â chais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(c)y deddfau perthnasol sydd i’w cymhwyso gan gynnwys y rhai ynghylch camau disgyblu, cyfrifoldeb ariannol neu atebolrwydd ariannol,
(d)egwyddorion disgyblaeth a gorfodi safonau proffesiynol, gan gynnwys awdurdodaeth ddisgyblu ac effeithiau canlyniadol ar ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(e)y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwirhau’n barhaus addasrwydd i ymarfer, a
(f)y meini prawf ar gyfer dileu cofnod o’r gofrestr a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â dileu cofnod o’r gofrestr (gweler Rhan 4).
(2)Rhaid i GCC ymdrin yn brydlon ag ymholiad gan broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b).]
Diwygiadau Testunol