RHAN 3GOFAL CYMDEITHASOL CYMRU
Ymgysylltu â’r cyhoedd etc.
F171ADarparu gwybodaeth – proffesiynolion gwladwriaeth benodedig
(1)
Rhaid i GCC ddarparu, ar gais, wybodaeth i broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig am y materion a ganlyn—
(a)
y cymwysterau proffesiynol sy’n ofynnol i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(b)
manylion unrhyw ofynion cofrestru sy’n gymwys mewn perthynas â chais i gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(c)
y deddfau perthnasol sydd i’w cymhwyso gan gynnwys y rhai ynghylch camau disgyblu, cyfrifoldeb ariannol neu atebolrwydd ariannol,
(d)
egwyddorion disgyblaeth a gorfodi safonau proffesiynol, gan gynnwys awdurdodaeth ddisgyblu ac effeithiau canlyniadol ar ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru,
(e)
y prosesau a’r gweithdrefnau ar gyfer gwirhau’n barhaus addasrwydd i ymarfer, a
(f)
y meini prawf ar gyfer dileu cofnod o’r gofrestr a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â dileu cofnod o’r gofrestr (gweler Rhan 4).
(2)
Rhaid i GCC ymdrin yn brydlon ag ymholiad gan broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig ynghylch y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(a) a (b).