xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 11/07/2016

RHAN 3LL+CGOFAL CYMDEITHASOL CYMRU

Valid from 03/04/2017

Ymgysylltu â’r cyhoedd etc.LL+C

71Ymgysylltu â’r cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasolLL+C

(1)Rhaid i GCC

(a)rhoi gwybodaeth am GCC a’r arferiad o’i swyddogaethau ar gael i—

(i)y cyhoedd, a

(ii)gweithwyr gofal cymdeithasol;

(b)llunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd a gweithwyr gofal cymdeithasol yn yr arferiad o’r swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

(2)O ran GCC—

(a)caiff ddiwygio ei ddatganiad polisi a rhaid iddo gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)caiff gyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)Rhaid i GCC roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer ei swyddogaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 71 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)