RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 2LL+CCOFRESTRU ETC. DARPARWYR GWASANAETHAU

Ymgeisio, amrywio a chanslo cofrestriadLL+C

[F16ACofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiadLL+C

(1)Er mwyn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i berson nad yw’n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw.

(2)At ddibenion y Rhan hon, mae “endid nid-er-elw” yn berson sy’n bodloni amodau 1 a 2 yn is-adrannau (3) a (4).

(3)Amod 1 yw bod amcanion neu ddibenion y person yn ymwneud yn anad dim â’r canlynol—

(a)lles plant, neu

(b)unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

(4)Amod 2 yw bod y person yn un o’r mathau o ymgymeriad a ganlyn (fel y’u diffinnir yn adran 6B)—

(a)cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau,

(b)sefydliad elusennol corfforedig,

(c)cymdeithas gofrestredig elusennol, neu

(d)cwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau.]