Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

Valid from 03/04/2017

69Cyngor a chynhorthwy mewn perthynas â gwasanaethau gofal a chymorthLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff GCC roi cyngor neu gynhorthwy arall (gan gynnwys grantiau) i unrhyw berson sy’n darparu gwasanaeth gofal a chymorth at ddiben annog gwelliant yn y ddarpariaeth o’r gwasanaeth hwnnw.

(2)Caiff GCC atodi unrhyw amodau i grant a roddir o dan is-adran (1) sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Ystyr “gwasanaeth gofal a chymorth” yw—

(a)gwasanaeth rheoleiddiedig, neu

(b)unrhyw wasanaeth arall yng Nghymru sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth gan weithwyr gofal cymdeithasol.

(4)Gweler adran 2 am ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig” ac adran 3 am ystyr “gofal a chymorth”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)