RHAN 2TROSOLWG O RANNAU 3 I 8 A’U DEHONGLI
66Dehongli Rhannau 3 i 8
(1)
Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 80;
ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw person a benodir fel cofrestrydd o dan adran 81;
F1ystyr “cyfnod ymaddasu” (“adaptation period”) yw cyfnod o ymarfer o dan oruchwyliaeth, o dan gyfrifoldeb gweithiwr gofal cymdeithasol sydd wedi ei gymhwyso’n briodol, yn ddarostyngedig i unrhyw asesiad, ac y gall hyfforddiant pellach ddod gydag ef;
F1ystyr “cymwysterau proffesiynol” (“professional qualifications”) yw cymwysterau a ardystir gan dystiolaeth o gymwysterau ffurfiol neu brofiad proffesiynol;
F1ystyr “gofynion cofrestru eraill” (“other registration requirements”) yw’r gofynion a grybwyllir yn adran 83(2)(b) ac (c);
mae i “gwaith cymdeithasol perthnasol” (“relevant social work”) yr ystyr a roddir gan adran 79(4);
mae i “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1);
mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79;
F2...
F2...
F1ystyr “gwladwriaeth benodedig” (“specified state”) yw—
(a)
Gwlad yr Iâ,
(b)
Teyrnas Norwy,
(c)
Tywysogaeth Liechtenstein, a
(d)
Cydffederasiwn y Swistir;
ystyr “panel addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(b);
ystyr “panel apelau cofrestru” (“registration appeals panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(a);
ystyr “panel gorchmynion interim” (“interim orders panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(c);
F2...
F1ystyr “prawf gallu” (“aptitude test”) yw prawf a gynhelir gan GCC, sydd wedi ei gyfyngu i’r wybodaeth broffesiynol sydd gan broffesiynolyn gwladwriaeth benodedig, gyda’r nod o asesu ei allu i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol o’r disgrifiad y mae ei gais yn ymwneud ag ef;
F1ystyr “proffesiynolyn gwladwriaeth benodedig” (“specified state professional”) yw unigolyn sydd wedi cael cymwysterau proffesiynol mewn gwladwriaeth benodedig;
mae’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” (“social worker part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
mae “rhan ychwanegol” (“added part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
F3...
F2...
F4mae i “rheolwr gofal cymdeithasol” (“social care manager”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1)(b).
F1ystyr “tystiolaeth o gymwysterau ffurfiol” (“evidence of formal qualifications”) yw unrhyw ddiploma, unrhyw dystysgrif neu unrhyw dystiolaeth arall a ddyroddir gan gorff mewn gwladwriaeth benodedig y mae ei weithgareddau arferol yn cynnwys dyroddi cofnodion o’r fath sy’n ardystio bod cwrs astudiaeth broffesiynol neu gwrs hyfforddiant proffesiynol wedi ei gwblhau’n llwyddiannus;
F1mae “wedi ei gymhwyso’n briodol” (“appropriately qualified”) i’w ddehongli yn unol ag adran 84;
F1ystyr “ymgeisydd gwladwriaeth benodedig” (“specified state applicant”) yw proffesiynolyn gwladwriaeth benodedig—
(a)
sy’n dymuno cael mynediad at waith fel gweithiwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a dilyn y gwaith hwnnw, a
(b)
sy’n gwneud cais o dan adran 82 i gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol neu mewn rhan ychwanegol o’r gofrestr;
F2...
F2...
(2)
Gweler adran 189 am ddarpariaeth ynghylch dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.