Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

66Dehongli Rhannau 3 i 8LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—

  • ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 80;

  • ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw person a benodir fel cofrestrydd o dan adran 81;

  • mae i “gwaith cymdeithasol perthnasol” (“relevant social work”) yr ystyr a roddir gan adran 79(4);

  • mae i “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1);

  • mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79;

  • mae i “gwladolyn” (“national”), mewn perthynas â Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 90(8);

  • mae i “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8);

  • ystyr “panel addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(b);

  • ystyr “panel apelau cofrestru” (“registration appeals panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(a);

  • ystyr “panel gorchmynion interim” (“interim orders panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(c);

  • mae i “person esempt” (“exempt person”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8);

  • mae’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” (“social worker part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);

  • mae “rhan ychwanegol” (“added part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);

  • F1...

  • mae i “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8).

  • [F2mae i “rheolwr gofal cymdeithasol” (“social care manager”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1)(b).]

  • [F2mae “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” (“visiting European social care manager part”), mewn perthynas â'r gofrestr, i'w ddehongli yn unol ag adran 80(3);]

  • [F2mae “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” (“visiting European social worker part”), mewn perthynas â'r gofrestr, i'w ddehongli yn unol ag adran 80(3);]

(2)Gweler adran 189 am ddarpariaeth ynghylch dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 66 mewn grym ar 3.4.2017 gan O.S. 2017/309, ergl. 2(a) (ynghyd ag erglau. 3, 4, Atod.)