RHAN 2TROSOLWG O RANNAU 3 I 8 A’U DEHONGLI
66Dehongli Rhannau 3 i 8
(1)
Yn Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon—
ystyr “cofrestr” (“register”) yw’r gofrestr a gedwir o dan adran 80;
ystyr “cofrestrydd” (“registrar”) yw person a benodir fel cofrestrydd o dan adran 81;
mae i “gwaith cymdeithasol perthnasol” (“relevant social work”) yr ystyr a roddir gan adran 79(4);
mae i “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1);
mae i “gweithiwr gofal cymdeithasol” (“social care worker”) yr ystyr a roddir gan adran 79;
mae i “gwladolyn” (“national”), mewn perthynas â Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, yr ystyr a roddir gan adran 90(8);
mae i “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8);
ystyr “panel addasrwydd i ymarfer” (“fitness to practise panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(b);
ystyr “panel apelau cofrestru” (“registration appeals panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(a);
ystyr “panel gorchmynion interim” (“interim orders panel”) yw panel a sefydlir yn rhinwedd adran 174(1)(c);
mae i “person esempt” (“exempt person”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8);
mae’r “rhan gweithwyr cymdeithasol” (“social worker part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
mae “rhan ychwanegol” (“added part”), mewn perthynas â’r gofrestr, i’w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
F1...
mae i “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yr ystyr a roddir gan adran 90(8).
F2mae i “rheolwr gofal cymdeithasol” (“social care manager”) yr ystyr a roddir gan adran 79(1)(b).
F2mae “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” (“visiting European social care manager part”), mewn perthynas â'r gofrestr, i'w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
F2mae “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” (“visiting European social worker part”), mewn perthynas â'r gofrestr, i'w ddehongli yn unol ag adran 80(3);
(2)
Gweler adran 189 am ddarpariaeth ynghylch dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.