RHAN 2TROSOLWG O RANNAU 3 I 8 A’U DEHONGLI
65Trosolwg o Rannau 3 i 8
(1)
Mae’r adran hon yn rhoi trosolwg o brif ddarpariaethau Rhannau 3 i 8 o’r Ddeddf hon.
(2)
Mae Rhan 3—
(a)
yn rhoi’r enw newydd Gofal Cymdeithasol Cymru (a ddiffinnir gan adran 67 fel “GCC”) i Gyngor Gofal Cymru, a
(b)
yn gwneud darpariaeth ar gyfer ei swyddogaethau cyffredinol (gweler, yn benodol, adrannau 68 i 72, gan gynnwys y ddarpariaeth yn Atodlen 2 ynghylch cyfansoddiad GCC a materion eraill sy’n berthnasol i’w weithrediad cyffredinol).
(3)
Mae Rhannau 4 i 6 yn rhoi swyddogaethau i GCC mewn perthynas â rheoleiddio gweithwyr cymdeithasol a phersonau eraill sy’n ymgymryd â darparu gofal a chymorth i bersonau yng Nghymru (sydd wedi eu diffinio, ar y cyd, fel “gweithwyr gofal cymdeithasol” gan adran 79(1)); gan gynnwys—
(a)
dyletswydd i gadw cofrestr o weithwyr gofal cymdeithasol penodol, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol (gweler, yn benodol, adran 80 o Ran 4);
(b)
gofyniad yn adran 81 i GCC benodi cofrestrydd i brosesu ceisiadau ar gyfer cofrestru yn y gofrestr ac fel arall i arfer swyddogaethau o dan Ran 4 mewn perthynas â’r gofrestr, gan gynnwys y swyddogaeth o benderfynu, o dan adran 83, a ddylai personau gael eu derbyn i’r gofrestr.
(4)
Mae Rhannau 4 i 6 hefyd yn nodi’r gofynion y mae rhaid eu bodloni er mwyn dod yn gofrestredig a pharhau’n gofrestredig; gan gynnwys—
(a)
gofyniad bod y cofrestrydd wedi ei fodloni bod person wedi ei gymhwyso, neu wedi ei hyfforddi’n briodol fel arall, i fod yn weithiwr gofal cymdeithasol (gweler adran 83 am hyn),
(b)
y rhwymedigaethau sydd i’w cyflawni gan bersonau sydd wedi eu cofrestru yn y gofrestr mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus (gweler adran 113 o Ran 5), ac
(c)
rhwymedigaethau mewn cysylltiad ag addasrwydd i ymarfer fel gweithiwr gofal cymdeithasol.
(5)
Mae adran 117 o Bennod 1 o Ran 6 yn nodi’r seiliau dros amhariad posibl ar addasrwydd person i ymarfer at ddibenion bod yn gofrestredig, a pharhau’n gofrestredig; gan gynnwys perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol a chamymddwyn difrifol mewn unrhyw rinwedd.
(6)
Mae Pennod 2 o Ran 6 yn darparu ar gyfer system o ystyriaeth ragarweiniol ac, os oes angen, ymchwiliad gan neu ar ran GCC o ran a all fod amhariad ar addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig i ymarfer, ac ar gyfer atgyfeirio achosion penodol i banel addasrwydd i ymarfer.
(7)
Mae Rhan 8 yn ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu paneli a fydd yn dyfarnu a ddylid derbyn person i’r gofrestr neu ei dynnu oddi arni; yn benodol—
(a)
paneli i wneud dyfarniadau o dan Ran 4, gan gynnwys dyfarniadau ynghylch penderfyniadau a wneir gan y cofrestrydd (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli apelau cofrestru”),
(b)
paneli i wneud dyfarniadau mewn perthynas ag addasrwydd gweithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig i ymarfer drwy gyfeirio at y seiliau amhariad posibl yn adran 117 (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli addasrwydd i ymarfer”), ac
(c)
paneli i wneud penderfyniadau wrth aros am ddyfarniad ar fater gan baneli apelau cofrestru neu baneli addasrwydd i ymarfer (a ddiffinnir gan adran 174 o Ran 8 fel “paneli gorchmynion interim”).
(8)
Mae Pennod 3 o Ran 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffyrdd y caiff paneli addasrwydd i ymarfer waredu achosion pan fo amheuon ynghylch addasrwydd person i ymarfer, gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i baneli dynnu person oddi ar y gofrestr neu ei atal dros dro o’r gofrestr; ac mae Pennod 5 o Ran 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr adolygiad cyfnodol gan banel addasrwydd i ymarfer o addasrwydd i ymarfer bersonau sydd wedi bod yn ddarostyngedig i achosion o dan Bennod 3 o’r Rhan honno.
(9)
Mae adran 104 o Ran 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch apelau i’r tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniadau a wneir o dan y Rhan honno sy’n ymwneud â chofrestru, tra bo Pennod 6 o Ran 6 yn darparu ar gyfer apelau i’r tribiwnlys yn erbyn dyfarniadau paneli addasrwydd i ymarfer o dan y Rhan honno.
(10)
Mae adran 111 o Ran 4 yn ei gwneud yn drosedd i berson yng Nghymru fwriadu twyllo rhywun drwy esgus bod yn weithiwr cymdeithasol cofrestredig, ac yn rhinwedd rheoliadau yn ei gwneud yn drosedd i berson fwriadu twyllo rhywun drwy esgus bod yn fath arall o weithiwr gofal cymdeithasol cofrestredig.
(11)
Mae Rhan 7 yn caniatáu i Weinidogion Cymru drwy reoliadau awdurdodi paneli addasrwydd i ymarfer i wahardd gweithwyr gofal cymdeithasol nad yw rhan o’r gofrestr yn cael ei chadw mewn cysylltiad â hwy rhag cyflawni gweithgareddau a bennir yn y rheoliadau, ac yn gwneud darpariaeth gysylltiedig, gan gynnwys ei gwneud yn drosedd i weithiwr gofal cymdeithasol gyflawni’r gweithgareddau hynny tra ei fod yn ddarostyngedig i waharddiad.
(12)
Yn ogystal â gwneud darpariaeth ynghylch datblygiad proffesiynol parhaus, mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch swyddogaethau eraill GCC mewn cysylltiad ag addysg a hyfforddiant gweithwyr gofal cymdeithasol, gan gynnwys darpariaeth ynghylch cymeradwyo gan GCC gyrsiau ar gyfer personau sy’n weithwyr gofal cymdeithasol neu sy’n dymuno dod yn weithwyr gofal cymdeithasol (gweler adran 114).