Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016

64Dehongli’r Rhan honLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Rhan hon—

  • mae i “cymorth” (“support”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(d);

  • mae i “darparwr gwasanaeth” (“service provider”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)⁠(c);

  • mae i “gofal” (“care”) yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(a);

  • mae “gofal a chymorth” (“care and support”) i’w ddehongli (ac eithrio yn adran 63(3)(a)(i)) yn unol ag adran 3(2);

  • mae i “gwasanaeth rheoleiddiedig” (“regulated service”) yr ystyr a roddir gan adran 2(1);

  • mae i “swyddogaethau rheoleiddiol” (“regulatory functions”), mewn perthynas â Gweinidogion Cymru, yr ystyr a roddir gan adran 3(1)(b);

  • mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir gan adran 21(1).

(2)Gweler adran 189 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer dehongli’r geiriau a’r ymadroddion sy’n gymwys i’r Ddeddf gyfan.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 64 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(g)