RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 7TROSOLWG O’R FARCHNAD
63Adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol ar unrhyw adegau a ragnodir.
(2)
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â GCC wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol a chânt gyfarwyddo GCC i lunio ar y cyd â hwy unrhyw ran o’r adroddiad sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(3)
Rhaid i adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad genedlaethol gynnwys—
(a)
asesiad—
(i)
o ddigonolrwydd y gofal a’r cymorth (o fewn ystyr Deddf 2014) a ddarperir yng Nghymru yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir,
(ii)
o’r graddau y darparwyd gwasanaethau rheoleiddiedig yng Nghymru yn ystod y cyfnod rhagnodedig hwnnw gan ddarparwyr gwasanaethau y mae adran 61 yn gymwys iddynt,
(iii)
effaith comisiynu gwasanaethau gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol (o fewn ystyr Deddf 2014) ar arferiad y swyddogaethau hynny yn ystod unrhyw gyfnod a ragnodir, a
(iv)
o unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o ofal a chymorth yng Nghymru a ragnodir, a
(b)
adroddiad ar unrhyw gamau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru o dan adrannau 59 i 62 yn ystod y cyfnod a ragnodir o dan baragraff (a)(i).
(4)
Wrth lunio adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r adroddiad diweddaraf ar sefydlogrwydd y farchnad leol a gyhoeddwyd gan bob awdurdod lleol o dan adran 144B o Ddeddf 2014 (adroddiadau ar sefydlogrwydd y farchnad leol).
(5)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (3)(a)(iv) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(6)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.