C4C3C2C1C5RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
Rhn. 1 cymhwyswyd (gydag addasiadau) (31.3.2024) gan Rheoliadau Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2024 (O.S. 2024/388), rhlau. 1(2), 79(3)
PENNOD 7TROSOLWG O’R FARCHNAD
I162Hysbysu awdurdodau lleol pan fo methiant darparwr gwasanaeth yn debygol
1
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth y mae adran 61 yn gymwys iddo yn debygol o beidio â gallu darparu gwasanaeth rheoleiddiedig y mae wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef oherwydd methiant busnes fel a grybwyllir yn adran 189 o Ddeddf 2014 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol).
2
Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdodau lleol y maent yn meddwl y bydd yn ofynnol iddynt gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014 os yw’r darparwr gwasanaeth yn peidio â gallu darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig o dan sylw.
3
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n ymwneud â busnes y darparwr gwasanaeth sy’n briodol yn eu barn hwy, ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus iddynt ei chael at ddiben cynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014.
4
Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
5
Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (3) yn cynnwys—
a
pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a
b
pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.
Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)