RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 7TROSOLWG O’R FARCHNAD

62Hysbysu awdurdodau lleol pan fo methiant darparwr gwasanaeth yn debygol

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod darparwr gwasanaeth y mae adran 61 yn gymwys iddo yn debygol o beidio â gallu darparu gwasanaeth rheoleiddiedig y mae wedi ei gofrestru mewn cysylltiad ag ef oherwydd methiant busnes fel a grybwyllir yn adran 189 o Ddeddf 2014 (methiant darparwr: dyletswydd dros dro ar awdurdod lleol).

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdodau lleol y maent yn meddwl y bydd yn ofynnol iddynt gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014 os yw’r darparwr gwasanaeth yn peidio â gallu darparu’r gwasanaeth rheoleiddiedig o dan sylw.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth, neu unrhyw berson arall sy’n ymwneud â busnes y darparwr gwasanaeth sy’n briodol yn eu barn hwy, ddarparu unrhyw wybodaeth y maent yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus iddynt ei chael at ddiben cynorthwyo awdurdod lleol i gyflawni’r ddyletswydd o dan adran 189(2) o Ddeddf 2014.

(4)

Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth os yw datgelu’r wybodaeth honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(5)

Mae’r pŵer i’w gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei darparu o dan is-adran (3) yn cynnwys—

(a)

pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gopïau gael eu darparu o unrhyw ddogfennau neu gofnodion (gan gynnwys cofnodion meddygol a chofnodion personol eraill), a

(b)

pŵer i’w gwneud yn ofynnol i’r wybodaeth gael ei darparu ar ffurf ddarllenadwy.