RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 7TROSOLWG O’R FARCHNAD
61Asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth
(1)
Pan fo’r adran hon yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, rhaid i Weinidogion Cymru asesu cynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth o gynnal gwasanaethau rheoleiddiedig.
(2)
Rhaid i asesiad o gynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth o dan is-adran (1) gynnwys ystyriaeth o’i lywodraethu corfforaethol.
(3)
Pan fo Gweinidogion Cymru, yn sgil asesiad o dan is-adran (1), yn meddwl bod risg sylweddol i gynaliadwyedd ariannol busnes y darparwr gwasanaeth, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth ddatblygu cynllun o ran sut i liniaru neu i ddileu’r risg, a
(b)
trefnu, neu ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth drefnu, i berson sydd â’r arbenigedd proffesiynol priodol gynnal adolygiad annibynnol o’r busnes.
(4)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gosod gofyniad ar ddarparwr gwasanaeth o dan is-adran (3)(a), cânt hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r darparwr gwasanaeth—
(a)
cydweithredu â hwy wrth ddatblygu’r cynllun, a
(b)
cael eu cymeradwyaeth i’r cynllun terfynol.
(5)
Pan fo Gweinidogion Cymru yn trefnu adolygiad o dan is-adran (3)(b), caniateir iddynt adennill oddi wrth y darparwr gwasanaeth unrhyw gostau y maent yn mynd iddynt mewn cysylltiad â’r trefniadau (gan gynnwys unrhyw gostau gweinyddol ar gyfer gwneud y trefniadau y mae’n briodol eu hadennill yn eu barn hwy).
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer eu galluogi i gael oddi wrth unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy wybodaeth y maent yn credu y bydd yn eu cynorthwyo i asesu cynaliadwyedd ariannol darparwr gwasanaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddo.
(7)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (6) rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau sy’n briodol yn eu barn hwy.
(8)
Ond nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i reoliadau—
(a)
sy’n diwygio rheoliadau eraill a wneir o dan yr is-adran honno, a
(b)
nad ydynt, ym marn Gweinidogion Cymru, yn rhoi effaith i unrhyw newid sylweddol yn y ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau sydd i’w diwygio.
(9)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch gwneud yr asesiadau sy’n ofynnol gan is-adran (1).