Rhagolygol
60Dyfarnu a yw meini prawf yn gymwys i ddarparwr gwasanaethLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu, yn achos pob darparwr gwasanaeth, a yw’r darparwr gwasanaeth yn bodloni un neu ragor o’r meini prawf a bennir mewn rheoliadau o dan adran 59.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dyfarnu bod y darparwr gwasanaeth yn bodloni un neu ragor o’r meini prawf, mae adran 61 yn gymwys i’r darparwr gwasanaeth hwnnw oni bai bod, neu ac eithrio i’r graddau y mae, rheoliadau o dan adran 59(4) yn darparu nad yw’n gymwys.
(3)Pan fo adran 61 yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r darparwr yn unol â hynny.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 60 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)