RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

55Achosion am droseddau

(1)

Ni chaniateir i achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani, heb gydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gael ei ddwyn gan unrhyw berson ac eithrio’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.

(2)

Rhaid i achos diannod mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos.

(3)

Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn fwy na tair blynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.