55Achosion am droseddauLL+C
(1)Ni chaniateir i achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani, heb gydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gael ei ddwyn gan unrhyw berson ac eithrio’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.
(2)Rhaid i achos diannod mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth ddigonol i gyfiawnhau’r achos.
(3)Ond ni chaniateir i achos o’r fath gael ei ddwyn fwy na tair blynedd ar ôl i’r drosedd gael ei chyflawni.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1A. 55 cymhwyswyd (2.4.2018) gan 2014 anaw 4, a. 94B(3) (fel ei mewnosodwyd gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 58, 188(1); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(f))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 55 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 55 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)