xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1LL+CRHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5LL+CTROSEDDAU A CHOSBAU

54Troseddau gan gyrff anghorfforedigLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i droseddau o dan y Rhan hon ac o dan reoliadau a wneir odani.

(2)Caniateir i achos am drosedd yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw’r corff yn lle yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau ac, at ddibenion unrhyw achos o’r fath, mae unrhyw reolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r corff hwnnw yn gorff corfforaethol.

(3)Mae unrhyw ddirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei gollfarnu o drosedd i’w thalu o gronfeydd y corff hwnnw.

(4)Os caiff corff anghorfforedig ei gyhuddo o drosedd, mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p.86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43) yn cael effaith fel pe bai corff corfforaethol wedi ei gyhuddo.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)

I2A. 54 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)