xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/762), rhlau., 57(3)
C2Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/165), rhlau. 1(2), 58(3)
C3Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/163), rhlau. 1(2), 67(3)
C4Rhn. 1 cymhwysol (gydag addasiadau) (29.4.2019) gan Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/169), rhlau. 1(2), 71
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Rhan hon neu o dan reoliadau a wneir odani wedi ei chyflawni gan gorff corfforaethol.
(2)Mae person a grybwyllir yn is-adran (3) hefyd yn cyflawni’r drosedd os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad y person hwnnw neu ei bod wedi ei phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.
(3)Y personau hynny yw—
(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall yn y corff corfforaethol,
(b)pan fo materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, aelod, neu
(c)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r swyddi hynny.
(4)Pan fo corff corfforaethol yn awdurdod lleol, mae’r cyfeiriad yn is-adran (3) at gyfarwyddwr, rheolwr neu ysgrifennydd yn y corff i’w ddarllen fel cyfeiriad at swyddog neu aelod o’r awdurdod.
Addasiadau (ddim yn newid testun)
C5A. 53 cymhwysol (2.4.2018) gan 2014 anaw 4, a. 94B(3) (fel eu mewnosodwyd gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 58, 188(1); O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(f))
C6A. 53 cymhwysol (29.4.2019) gan 2014 anaw 4, a. 161C(5) (fel ei amnewidwyd gan Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (anaw 2), aau. 57(2), 188(1); O.S. 2019/864, ergl. 2(3)(c))
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 53 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)