RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU
52Hysbysiadau cosb
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad cosb i berson os ydynt wedi eu bodloni bod y person wedi cyflawni trosedd ragnodedig.
(2)
Dim ond troseddau o dan adrannau 47, 48 neu 49 neu o dan reoliadau a wneir o dan adran 45 neu 46 y caniateir iddynt gael eu rhagnodi felly.
(3)
Mae hysbysiad cosb yn hysbysiad sy’n cynnig y cyfle i’r person i ryddhau unrhyw atebolrwydd am gollfarn am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef drwy dalu i Weinidogion Cymru swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad.
(4)
Pan fo person yn cael hysbysiad cosb, ni chaniateir i achos am y drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi gael ei ddwyn cyn diwedd cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
(5)
Os yw person sy’n cael hysbysiad cosb yn talu’r swm a bennir yn yr hysbysiad yn unol â thelerau’r hysbysiad, ni all y person gael ei gollfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(6)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth—
(a)
o ran ffurf a chynnwys hysbysiadau cosb;
(b)
o ran y swm sy’n daladwy o dan hysbysiad cosb a’r amser y mae’r swm i gael ei dalu ynddo (gan gynnwys darpariaeth sy’n caniatáu i swm gwahanol fod yn daladwy mewn perthynas â throseddau gwahanol ac yn unol â’r amser erbyn pryd y caiff y swm ei dalu);
(c)
sy’n penderfynu ar y ffyrdd y caniateir i swm gael ei dalu ynddynt;
(d)
o ran y cofnodion sydd i’w cadw mewn perthynas â hysbysiadau cosb;
(e)
ynghylch yr amgylchiadau pan ganiateir i hysbysiad cosb gael ei dynnu’n ôl, gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(i)
ad-dalu unrhyw swm a delir cyn y tynnir hysbysiad yn ôl, a
(ii)
yr amgylchiadau pan na chaniateir i achos am drosedd gael ei ddwyn er bod hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.
(7)
Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (6)(b) wneud darpariaeth i swm fod yn daladwy o dan hysbysiad cosb sy’n fwy na dwywaith a hanner lefel 4 ar y raddfa safonol.