50Troseddau sy’n gysylltiedig ag arolygiadauLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae’n drosedd i berson—
(a)mynd ati’n fwriadol i rwystro arolygydd rhag arfer unrhyw swyddogaeth a roddir i arolygydd gan Bennod 3, neu
(b)methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n arfer swyddogaeth o’r fath.
(2)Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 50 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)