RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU
50Troseddau sy’n gysylltiedig ag arolygiadau
(1)
Mae’n drosedd i berson—
(a)
mynd ati’n fwriadol i rwystro arolygydd rhag arfer unrhyw swyddogaeth a roddir i arolygydd gan Bennod 3, neu
(b)
methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person gan arolygydd sy’n arfer swyddogaeth o’r fath.
(2)
Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1)(b) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.