RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

49Methiant i ddarparu gwybodaeth

(1)

Mae’n drosedd i berson fethu â chydymffurfio â gofyniad a osodir ar y person gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1).

(2)

Mae’n amddiffyniad i berson sydd wedi ei gyhuddo o drosedd o dan is-adran (1) ddangos bod ganddo esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â’r gofyniad.