RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU
47Datganiadau anwir
Mae’n drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn—
(a)
cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth,
(b)
cais i amrywio neu i ganslo cofrestriad,
(c)
datganiad blynyddol a gyflwynir o dan adran 10, neu
(d)
ymateb i ofyniad a osodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 32(1) (gofyniad i ddarparu gwybodaeth).