RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU
44Disgrifiadau anwir
1
Mae’n drosedd i berson, gyda’r bwriad o dwyllo person arall—
a
esgus bod yn ddarparwr gwasanaeth,
b
esgus bod man yn un y mae gwasanaeth rheoleiddiedig yn cael ei ddarparu ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef, neu
c
esgus bod yn unigolyn cyfrifol.
2
Caiff unrhyw un neu ragor o’r canlynol (ymhlith pethau eraill) fod yn weithred sy’n gyfystyr â throsedd o dan is-adran (1)—
a
cymhwyso enw at wasanaeth neu fan i roi’r argraff ei fod wedi ei bennu yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;
b
disgrifio gwasanaeth neu fan mewn modd sy’n bwriadu rhoi’r argraff honno;
c
honni bod gwasanaeth yn wasanaeth rheoleiddiedig a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;
d
honni bod man yn fan a bennir yng nghofrestriad darparwr gwasanaeth pan nad yw hynny’n wir;
e
gweithredu mewn modd sy’n rhoi’r argraff o fod yn unigolyn cyfrifol pan nad yw wedi ei ddynodi’n unigolyn o’r fath.