RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 5TROSEDDAU A CHOSBAU

43Methiant i gydymffurfio ag amod

(1)

Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth fethu â chydymffurfio ag unrhyw amod sy’n ymwneud â chofrestriad y darparwr sydd mewn grym am y tro yn rhinwedd y Rhan hon.

(2)

Ond nid yw darparwr gwasanaeth yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) drwy fethu â chael unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad â man y mae’r darparwr yn darparu gwasanaeth rheoleiddiedig ynddo, ohono neu mewn cysylltiad ag ef—

(a)

os nad yw’r terfyn amser a ragnodir o dan adran 11(2) wedi dod i ben (terfyn amser rhagnodedig ar gyfer gwneud cais i ddynodi unigolyn cyfrifol newydd), neu

(b)

os yw’r terfyn amser hwnnw wedi dod i ben ond gwnaeth y darparwr gwasanaeth y cais am amrywiad o fewn y terfyn amser ac nad yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu arno.