RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
42Adroddiad blynyddol ar swyddogaethau rheoleiddiol
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi adroddiad blynyddol ynghylch arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol honno.
(2)
Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys manylion am y canlynol—
(a)
sut y mae Gweinidogion Cymru wedi arfer y swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn,
(b)
y graddau y maent, wrth arfer y swyddogaethau hynny—
(i)
wedi cyflawni’r amcanion y cyfeirir atynt yn adran 4, a
(ii)
wedi rhoi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan adran 41, ac
(c)
sut yr effeithiodd y dyletswyddau a grybwyllir yn is-adran (4) ar arfer y swyddogaethau hynny yn ystod y flwyddyn.
(3)
Caiff yr adroddiad blynyddol gynnwys unrhyw wybodaeth arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(4)
Y dyletswyddau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(c) yw dyletswyddau Gweinidogion Cymru o dan—
(a)
adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15) (dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus),
(b)
adran 1(1) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 (mccc 2) (dyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn),
(c)
adran 7(1) o Ddeddf 2014 (dyletswydd i roi sylw dyladwy i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn wrth arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau cymdeithasol i oedolion), a
(d)
Rhan 4 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (mccc 1) (safonau).
(5)
Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o adroddiad blynyddol a gyhoeddwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.