RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL

41Ymgysylltu â’r cyhoedd

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

rhoi gwybodaeth am arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol ar gael ar gyfer y cyhoedd, a

(b)

llunio a chyhoeddi datganiad am eu polisi mewn cysylltiad â chynnwys y cyhoedd wrth arfer y swyddogaethau hynny (pa un ai drwy ymgynghoriad neu drwy ddulliau eraill).

(2)

O ran Gweinidogion Cymru—

(a)

cânt ddiwygio datganiad polisi a rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig, neu

(b)

cânt gyhoeddi datganiad polisi newydd.

(3)

Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig), yn benodol, ymdrin—

(a)

â chynnwys y cyhoedd mewn arolygiadau a gynhelir o dan Bennod 3, a

(b)

â chynnwys gofalwyr (o fewn ystyr adran 3 o Ddeddf 2014) yn yr arferiad o swyddogaethau rheoleiddiol Gweinidogion Cymru.

(4)

Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o ddatganiad polisi a gyhoeddwyd (neu ddatganiad diwygiedig) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i’r datganiad polisi diweddaraf a gyhoeddwyd o dan yr adran hon wrth arfer eu swyddogaethau rheoleiddiol.