RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 4SWYDDOGAETHAU CYFFREDINOL
38Cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal cofrestr o ddarparwyr gwasanaethau.
(2)
Rhaid i gofnod yn y gofrestr mewn cysylltiad â darparwr gwasanaeth ddangos yr wybodaeth a ganlyn—
(a)
y gwasanaethau rheoleiddiedig y mae’r darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i’w darparu;
F1(aa)
a yw unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau hynny yn wasanaeth plant o dan gyfyngiad;
(b)
y mannau y mae’r darparwr wedi ei gofrestru i ddarparu’r gwasanaethau hynny ynddynt, ohonynt neu mewn perthynas â hwy;
(c)
enw’r unigolyn cyfrifol sydd wedi ei gofrestru mewn cysylltiad â phob man o’r fath;
(d)
y dyddiad y cymerodd cofrestriad y darparwr effaith mewn cysylltiad â phob gwasanaeth rheoleiddiedig o’r fath a phob man o’r fath;
F2(da)
yn achos darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad—
(i)
bod cofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1), a
(ii)
bod yr amod yn adran 7(3)(aa) wedi ei osod ar gofrestriad y darparwr mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw;
(e)
manylion unrhyw amodau eraill a osodir ar gofrestriad y darparwr gwasanaeth;
(f)
crynodeb o unrhyw adroddiad arolygu sy’n ymwneud â’r darparwr gwasanaeth sydd wedi ei gyhoeddi o dan adran 36(3)(a);
(g)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir.
F3(2A)
Gweler hefyd Atodlen 1A, mewn cysylltiad â chofrestriad darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad nad yw’n ddarostyngedig i’r gofyniad yn adran 6A(1) yn ystod y cyfnod trosiannol a ddiffinnir yn yr Atodlen honno.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r gofrestr a’i rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arni yn rhad ac am ddim, yn y modd, ac ar yr adegau, sy’n briodol yn eu barn hwy (ond gweler is-adran (5)(a)).
(4)
Rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol a wneir gan berson i gael copi o’r gofrestr neu ddarn ohoni (ond gweler is-adran (5)(b)).
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru—
(a)
hepgor gwybodaeth ragnodedig o’r gofrestr a gyhoeddwyd mewn amgylchiadau rhagnodedig;
(b)
gwrthod cydymffurfio â chais a wneir o dan is-adran (4) mewn amgylchiadau rhagnodedig.