RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL

PENNOD 3GWYBODAETH , AROLYGIADAU AC YMCHWILIADAU

36Adroddiadau arolygu

(1)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth.

(2)

Rhaid i adroddiad F1, i’r graddau a ystyrir yn gymesur gan Weinidogion Cymru, gynnwys—

(a)

asesiad o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu,

(b)

asesiad o effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant personau y darperir (neu y darparwyd) y gofal a’r cymorth iddynt,

(c)

asesiad o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, a

(d)

os gwneir rheoliadau o dan adran 37, y radd sydd wedi ei rhoi i’r darparwr gwasanaeth.

(3)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi pob adroddiad a lunnir o dan is-adran (1);

(b)

sicrhau bod copïau yn cael eu rhoi ar gael i’w harolygu yn y mannau ac yn y modd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;

(c)

anfon copi o adroddiad a lunnir o dan is-adran (1) at unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.

F2(3A)

Ond nid yw gofyniad yn is-adran (3) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai cyflawni’r gofyniad yn amhriodol gan roi sylw i fudd pennaf person y mae ei ofal a’i gymorth wedi eu hasesu yn yr adroddiad.