36Adroddiadau arolyguLL+C
(1)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth.
(2)Rhaid i adroddiad gynnwys—
(a)asesiad o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu,
(b)asesiad o effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant personau y darperir (neu y darparwyd) y gofal a’r cymorth iddynt,
(c)asesiad o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, a
(d)os gwneir rheoliadau o dan adran 37, y radd sydd wedi ei rhoi i’r darparwr gwasanaeth.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)cyhoeddi pob adroddiad a lunnir o dan is-adran (1);
(b)sicrhau bod copïau yn cael eu rhoi ar gael i’w harolygu yn y mannau ac yn y modd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;
(c)anfon copi o adroddiad a lunnir o dan is-adran (1) at unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 188(1)
I2A. 36 mewn grym ar 2.4.2018 gan O.S. 2017/1326, ergl. 2(3)(e)