RHAN 1RHEOLEIDDIO GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL
PENNOD 3GWYBODAETH AC AROLYGIADAU
36Adroddiadau arolygu
(1)
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i arolygiad gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru lunio adroddiad ar yr arolygiad ac anfon copi ohono at y darparwr gwasanaeth.
(2)
Rhaid i adroddiad gynnwys—
(a)
asesiad o safon unrhyw ofal a chymorth a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, wedi ei mesur mewn perthynas ag unrhyw ofynion a osodir gan reoliadau o dan adran 27(1) o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu,
(b)
asesiad o effaith unrhyw ofal a chymorth o’r fath ar lesiant personau y darperir (neu y darparwyd) y gofal a’r cymorth iddynt,
(c)
asesiad o drefniadaeth a chydgysylltiad gwasanaethau rheoleiddiedig a ddarperir (neu a oedd wedi eu darparu) gan y darparwr gwasanaeth, a
(d)
os gwneir rheoliadau o dan adran 37, y radd sydd wedi ei rhoi i’r darparwr gwasanaeth.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)
cyhoeddi pob adroddiad a lunnir o dan is-adran (1);
(b)
sicrhau bod copïau yn cael eu rhoi ar gael i’w harolygu yn y mannau ac yn y modd sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru;
(c)
anfon copi o adroddiad a lunnir o dan is-adran (1) at unrhyw berson sy’n gofyn am gopi.